Ar hyn o bryd, mae S4 yn cynnal rhaglen ddwys dros dair blynedd gyda dros 500 o bobl ifanc o saith o ysgolion partner yn ne Cymru. Mae pob un sy’n cymryd rhan yn dod i rhwng tri a chwe digwyddiad bob blwyddyn ar gampws Prifysgol Abertawe. Maen nhw’n cymryd rhan mewn gweithdai gwyddonol ymarferol a rhyngweithiol ym meysydd Biowyddoniaeth, Cemeg a Ffiseg. Ym mlwyddyn 1, mae cyfranogwyr yn dod i dri diwrnod: Uwch-gelloedd (tymor y gwanwyn 2019), Adweithiau Radical (tymor y gwanwyn 2019), a’r Ddaear a’i helfennau (tymor yr haf 2019).
Bydd cyfranogwyr yn dechrau’r diwrnod drwy ddysgu am strwythur sylfaenol celloedd, gan ddarganfod y prif wahaniaethau rhwng gwahanol fathau o gelloedd, gan gynnwys celloedd anifeiliaid a phlanhigion. Yna byddant yn archwilio swyddogaeth gwahanol fathau o gelloedd, a sut mae trosglwyddo ynni yn y celloedd hyn yn hanfodol er mwyn i’r pethau byw y maen nhw’n eu creu oroesi.
Cysylltiadau i gwricwlwm Gwyddoniaeth Cymru (CA3)
Cyfeirir at gelloedd yn aml fel ‘blociau adeiladu bywyd,’ oherwydd dyma’r unedau microsgopig y mae pob peth byw wedi’i wneud ohonynt. Mae gan bob cell rai nodweddion allweddol a chyffredinol, ond gall gwahanol fathau o gelloedd wneud swyddogaethau penodol oherwydd bod amrywiadau rhyngddynt – mae hyn yn WIR am wahanol rywogaeth o blanhigion ac anifeiliaid yn ogystal â phrosesau mewn organeb fyw. Bydd cyfranogwyr yn edrych ar strwythur celloedd anifeiliaid a phlanhigion a’r prosesau y maen nhw’n eu defnyddio i gynhyrchu ynni.
Bydd cyfranogwyr yn dechrau’r diwrnod drwy ddysgu am asidau ac alcalïau a’r mathau o adweithiau cemegol y gallant eu cynhyrchu. Yna byddant yn defnyddio’r wybodaeth a ddysgwyd yn y gweithdy ‘uwch-gelloedd’ blaenorol i edrych yn fwy manwl ar yr adweithiau mewn celloedd i gadw planhigion ac anifeiliaid yn fyw. Yn olaf, byddant yn edrych ar y mathau o adweithiau ffisegol sy’n gallu creu trosglwyddiadau fesul cam, sy’n newid deunyddiau rhwng solidau, hylifau a nwyon.
Cysylltiadau i gwricwlwm Gwyddoniaeth Cymru (CA3)
Pennir priodweddau sylwedd gan y gronynnau y mae wedi’i wneud ohonynt a sut maen nhw wedi’u trefnu. Weithiau gall sylweddau sy’n edrych yn debyg iawn ymddwyn mewn ffyrdd gwahanol iawn. Bydd cyfranogwyr yn darganfod sut mae’r cynnyrch gwahanol yma yn ymddwyn pan maen nhw’n adweithio gyda’i gilydd, a sut mae’r adweithiau cemegol hyn yn cael effaith ar eu priodweddau dilynol. Byddant yn dysgu sut mae adweithiau cemegol mewn celloedd yn hanfodol i gefnogi bywyd, ac yn edrych ar y deunyddiau a’r amodau sydd eu hangen i brosesau anadlu a ffotosynthesis ddigwydd mewn cell a’r biogynnyrch a gynhyrchir
Bydd cyfranogwyr yn dechrau’r diwrnod gyda chyflwyniad i’r tabl cyfnodol a’r elfennau amrywiol sy’n ei greu. Byddant yn darganfod y mecanweithiau sy’n gyfrifol am greu’r sylweddau gwahanol hynny, eu priodweddau, a’r ymddygiadau sy’n nodweddu grwpiau penodol yn y tabl. Yna byddant yn edrych ar yr heriau a wynebir gan anifeiliaid y môr sy’n gorfod byw gyda’i gilydd fel rhan o ecosystem ehangach.
Cysylltiadau i gwricwlwm Gwyddoniaeth Cymru (CA3)
Mae 2019 yn flwyddyn genedlaethol y tabl cyfnodol – 150 mlynedd ers i Dimitri Mendeleev roi trefn ar elfennau mewn tabl. Yn ystod sesiwn y bore, caiff cyfranogwyr gyflwyniad i’r tabl cyfnodol a’i elfennau, gan ganolbwyntio ar leoliad yr elfennau hyn yn y corff dynol. Dengys hyn drwy gyfres o arddangosiadau a gweithgareddau a fydd yn edrych ar gysyniadau megis adweithedd, priodweddau nwyon a defnyddiau eraill ar gyfer yr elfennau metel y gellir dod o hyd iddynt yn y corff dynol. Mae sesiwn y prynhawn yn ymwneud ag addasu a’r cysylltiadau rhwng rhywogaethau a’i gilydd, gan gynnwys ysglyfaethwr-ysglyfaeth, parasitiaeth a symbiosis mewn ecosystemau morol. Bydd cyfranogwyr yn edrych ar y cysyniadau hyn drwy ddylunio eu hanifeiliaid ysglyfaethwr ac ysglyfaeth eu hunain a chreu adwaith cemegol sy’n dynwared yr adwaith sy’n creu golau biolegol gan organebau morol a’i bacteria symbiotig.